Sut i wirfoddoli

Rydym eich angen chi

Mae Cyngor ar Bopeth Gwynedd a De Ynys Môn bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, gan na fyddwn yn gallu gweithredu’n effeithlon hebddynt.

Er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn effeithlon mae arnom angen:

Cynghorwyr Gwirfoddol; Gwirfoddolwyr Gweinyddu; Aelodau Gwirfoddol ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr; Tiwtoriaid Arwain Gwirfoddol; Cydlynwyr Polisi Cymdeithasol Gwirfoddol. 

Mae angen i’n holl wirfoddolwyr gadw at Nodau, Egwyddorion a Pholisïau Cyngor ar Bopeth, a gaiff eu hegluro yn y llyfryn hwn.  Os ydych chi’n credu y gallech chi gynnig unrhyw un o’r gwasanaethau uchod, hoffem glywed gennych. Darllenwch weddill y llyfryn.

NODIADAU CEFNDIR AM WASANAETH CAB

Diben Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) yw bodloni dau nod:

Darapru pobl â chyngor i’r problemau sy’n eu hwynebu.

Ac yn gyfartal

Gwella’r polisiau ac ymarferion sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Mae’r cyngor a roddir gan y ganolfan yn rhad ac am ddim, yn annibynnol, yn amhleidiol ac yn gyfrinachol. Ni fydd y gwasanaeth yn barnu pobl, ac mae’n cynnig cymorth priodol i bawb. Ei nod yw galluogi mynediad i bawb sy’n ceisio neu mae arnynt angen ei help, ni waeth beth fo’u hoed, dosbarth, hil, crefydd, rhyw, anabledd neu rywioldeb. Caiff pob gweithiwr cynghori eu hyfforddi’n broffesiynol, p’un a ydynt yn gyflogeion neu’n wirfoddolwyr, i ddarparu gwasanaeth cywir o safon ac i fod yn gefnogol i gleientiaid.

I lawrlwytho ein pecyn gwybodaeth, cliciwch yma

 

Hysbysu pobl o’r gyfraith a sut y mae’n effeithio arnyn nhw; o’u hawliau a’u cyfrifoldebau; ac o’r ffordd y gallent fodloni eu hanghenion.

Cynghori pobl ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt ac ar ganlyniadau posibl gwahanol gamau gweithredu.

Cefnogi pobl wrth iddynt ystyried a phenderfynu pa gamau i’w cymryd, gwrando ar eu pryderon a’u helpu nhw i symud ymlaen.

Cynorthwyo pobl i ddilyn eu dewis gamau gweithredu trwy drafod, cynrychioli a chyfeirio at ffynonellau eraill o help y mae ei angen.

Dylanwadu ar y rheiny sy’n gyfrifol am bolisïau a gwasanaethau trwy ddwyn i’w sylw y problemau y mae pobl yn eu profi a thrwy awgrymu newidiadau.

Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ymdrin â thros chwe miliwn o ymholiadau’r flwyddyn, gan roi gwybodaeth fanwl, cyngor a chefnogaeth i bobl ar bob pwnc. Mae’r rhan fwyaf o broblemau’n ymwneud â budd-daliadau nawdd cymdeithasol, dyled, cyflogaeth, tai a materion cwsmer.

Ar hyn o bryd, mae bron 700 o brif ganolfannau yng Nghymru a Lloegr ac mae 1090 o lefydd eraill lle mae cyngor CAB ar gael. Mae dros 22,000 o wirfoddolwyr hyfforddedig yn gweithio i’r ganolfan, ynghyd â thros 5000 o weithwyr cyflogedig sy’n cynnwys rheolwyr y canolfannau a chynghorwyr arbenigol. Hefyd, bydd dros 4000 o wirfoddolwyr yn aelodau o bwyllgorau rheoli canolfannau. Gyda’i gilydd maent yn darparu’r gwasanaeth cynghori mwyaf yn y byd.

Mae pob canolfan yn elusen ar wahân a reolir gan ei bwrdd ymddiriedolwyr ei hun, ac mae’n rhaid iddi gwrdd â safonau ansawdd aelodaeth er mwyn ymuno â Chymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyngor ar Bopeth. Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu nifer o wasanaethau i gefnogi’r canolfannau yn eu gwaith: ymhlith y rhain mae’r System Wybodaeth, hyfforddiant, cefnogaeth yn y maes, archwiliadau ansawdd, polisi cymdeithasol, y wasg a chyhoeddusrwydd, cyswllt seneddol a thechnoleg gwybodaeth.

Awdurdodau lleol yw brif ffynhonnell nawdd y canolfannau o hyd, ond mae’r cyfran a ddaw o ffynonellau eraill yn codi ac ar hyn o bryd mae’n dod i dros 40%.

Mae’r gwasanaeth CAB yn anelu at ddarparu cyfle cyfartal a thriniaeth deg i bawb sy’n gwneud cais am swydd wirfoddoli beth bynnag y bo’u hil, rhyw, anabledd, hunaniaeth rywiol neu statws priodasol.

Cychwynnodd Gwasanaeth Cynghori Gwynedd a De Ynys Môn CAB fel gwasanaeth symudol ym 1973. Wrth i’r galw dyfu agorwyd swyddfa gyntaf y ganolfan ym Mangor ym 1975 a sefydlwyd swyddfeydd eraill yn ddiweddarach. Yn wreiddiol, roedd pob un yn ganolfan annibynnol gyda’i phwyllgor rheoli ei hun, ond ym mis Ionawr 1998 cytunodd y canolfannau i uno o dan un pwyllgor rheoli i ffurfio Canolfannau Cynghori Gwynedd.

Ar hyn o bryd, mae CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB yn gweithredu o bedair prif ganolfan gynghori ym Mangor, Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli; ac mae safleoedd allymestyn yn Blaenau Ffestiniog ac yn Nhywyn Meirionydd. Ceir Gwasanaethau Arbenigol yn Hergest, Ysbyty Gwynedd, Ffordd y Coleg, Bangor, Plas Brith , Dolgellau, Canolfan Cilan Pwllheli a Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth.

Mae CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB yn darparu Gwasanaeth Ffôn ac Apwyntiadau dwyieithog penodedig i drigolion Gwynedd a De Ynys Môn, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10 a.m. a 3 p.m.

Mae gan CAB Gwynedd o gwmpas 60 o wirfoddolwyr.

Mae gan CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB gyfanswm o 70 o Gynghorwyr Gwirfoddol. Mae gan y mudiad 1 Prif Swyddog 1 Rheolwr Gwasanaeth, 3 Goruchwylydd Sesiwn Cynghori, 1 Rheolwr Swyddfa, 1 Gweithiwr Gweinyddol, 1 Rheolwr Prosiect, 7 o Weithwyr Swyddogion Achos a ariennir trwy brosiectau(llawn a rhan amser), 1 Cydlynydd Recriwtio/Gwaith Maes(rhan amser) a  1 Cydlynydd Tai(rhan amser)

Mae’r gwasanaeth yn cael arian gan Gyngor Gwynedd, Cynghorau Tref a Chymunedol, Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Cymru a Chymdeithas Milwyr, Morwyr, Awerynwyr a’u Teuluoedd.

Cyfweld

Mae pob math o bobl yn dod i CAB gyda phob math o broblemau. Un o’r pethau cyntaf y mae’n rhaid i weithiwr canolfan ei ddysgu yw sut i wrando. Mae’n bwysig gadael i’r cleint esbonio natur eu problem yn eu hamser eu hunain. Yna bydd rhaid i chi siarad â nhw a gofyn cwestiynau i wneud yn siwr bod y materion yn glir.

Rhoi gwybodaeth

Mae’r System Wybodaeth yn gynhwysfawr ac yn hawdd ei deall. Mae’n cael ei chefnogi gan amrywiaeth o gyfeirlyfrau, cyfeiriaduron a chanolfannau cefnogaeth arbennig. Weithiau byddwn yn cysylltu â sefydliadau eraill, i roi’r holl wybodaeth efallai bydd ar y client ei hangen.

Rhoi Help Ymarferol

Gall hyn fod trwy ddrafftio llythyrau, gwneud galwadau ffôn, llenwi ffurflenni. Bydd angen i chi wneud cyfrifiadau ar gyfer budd-daliadau neu dreth. Does dim rhaid i chi fod yn dda mewn mathemateg ond mae’n rhaid i chi fod yn fodlon dysgu sut i wneud y cyfrifiadau hyn.

Cofnodi Achosion

Mae’n bwysig iawn y caiff achos pob client ei gofnodi er mwyn i’r ganolfan allu cynnig gwasanaeth effeithlon os daw’r client yn ôl neu os bydd yr achos yn un parhaol dros gyfnod o sawl wythnos neu fis. Rhoddir hyfforddiant llawn ar sut i gofnodi achosion.

Sut gefnogaeth gaf i?

Mae gan bob canolfan lawer iawn o wybodaeth y gallwch chi ei defnyddio. Mae rheolwyr a gweithwyr profiadol ym mhob canolfan i’ch helpu, a rhoddir hyfforddiant llawn. Ni fydd disgwyl i chi byth ymdopi ar eich ben eich hun.

Hyfforddiant i wirfoddolwyr newydd
Mae’n rhaid i bob cynghorydd newydd gael hyfforddiant sylfaenol cychwynnol. Yna, byddwch yn gweithio o dan oruchwyliaeth am gyfnod.  Anogir hyfforddiant parhaus o bob math tra byddwch yn gweithio yn CAB;  bydd hyn ar ffurf cyrsiau hyfforddi, sesiynau canolfan gynghori a deunyddiau hunan-astudio.

Agor a didoli’r post yn ôl gweithdrefn y ganolfan; diweddaru gwybodaeth; teipio llythyrau ac ati i’r clientiaid, i’r cynghorwyr ac i’r rheolwyr;  ateb y ffôn gweinyddu (ddim y llinell gyngor);  gwaith derbynfa, hysbysu clientiaid am amseroedd aros ac ati.

Fel arfer, mae tiwtoriaid arwain yn gynghorwyr profiadol, y mae ganddynt sgiliau hyfforddi ac sy’n fodlon cynorthwyo hyfforddeion newydd trwy eu hyfforddiant sylfaenol. Gweler yr hyn y mae bod yn gynghorydd yn ei olygu.

Mae gwaith polisi cymdeithasol yn agwedd bwysig iawn ar waith CAB. Dylai fod gan weithwyr polisi cymdeithasol wybodaeth gefndir o waith polisi cymdeithasol, neu byddant wedi cael hyfforddiant cynghorydd, er mwyn iddynt allu adnabod unrhyw faterion sy’n ymwneud â pholisi cymdeithasol wrth iddynt ymddangos.

Casglu tystiolaeth a llenwi Ffurflenni Polisi Cymdeithasol a’u hanfon at yr Uned Polisi Cymdeithasol.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB yn cynrychioli cymuned Gwynedd a De Ynys Môn. Mae gan ei aelodau ystod eang o wybodaeth a phrofiad.

Bob blwyddyn, bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes a Datblygu. Mae’r aelodau hefyd yn atebol am berfformiad CAB, gan ateb i noddwyr ac i’r gymuned yn gyffredinol.

Mae pob Canolfan yn elusen annibynnol ac mae aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ymddiriedolwyr yr elusen. Maent yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol gweinyddiaeth y Ganolfan.  Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd bob chwarter.

Amhleidioldeb

Beth bynnag bo’ch barn chi, bydd disgwyl i chi weithio gyda phob math o glientiaid y bydd ganddynt wahanol fathau o broblemau. Bydd angen i chi fod yn barod i archwilio’ch barn a’ch teimladau eich hun i wneud yn siwr y byddwch chi’n gallu rhoi gwasanaeth o’r un ansawdd i bawb.

Gwrth-hiliaeth

Disgwylir i holl weithwyr staff CAB gadw at bolisi CAB ar wrth-hiliaeth. Mae hyn yn golygu gwrthwynebu’n gweithredol pob math o hiliaeth a gwahaniaethu, a sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i bawb.

Cyfrinachedd

Mae’n rhaid i bopeth a welir ac a glywir gennych yn y ganolfan fod yn breifat, ac mae’n rhaid i bob gweithiwr lofnodi cytundeb i gadw at y rheol cyfrinachedd caeth cyn iddynt gychwyn gweithio yn y ganolfan.

Cyfarfodydd y Ganolfan

Mae mynychu’r cyfarfodydd hyn yn rhan hanfodol o waith y ganolfan – at ddibenion hyfforddi, trafod achosion, materion polisi, gwaith ataliol, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’ch gilydd. Fe’u cynhelir bob mis, ac yn ddelfrydol dylech fynd i chwe chyfarfod y flwyddyn.

Amser

Fel rhan o dîm, gofynnwn i wirfoddolwyr nodi eu presenoldeb yn y Ganolfan Gynghori ar y rota bob wythnos ac iddynt gydnabod eu cyfrifoldeb i’r tîm e.e. i gyrraedd yn brydlon ar gyfer rhannu dyletswyddau, sgwrsio gyda’r Rheolwr a chyd-ymgynghorwyr cyn cychwyn y sesiwn.

Mae gan CAB bolisi y caiff gwirfoddolwyr dreuliau am unrhyw amser a dreulir yn teithio yn unol â pholisi CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB.

Mae’r cwestiynau a’r problemau sy’n wynebu gwirfoddolwyr CAB yn amrywio o faterion pob dydd am ddyledion, budd-daliadau a chyflogaeth, i rai mwy anarferol.

Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf poblogaidd a rhai mwy anghyffredin y bydd gwirfoddolwyr canolfan yn eu hwynebu, y math o atebion a roddir a’r camau y byddant yn eu cymryd:

(Cw)    Mae fy nghwmni cyflenwi dŵr lleol yn bygwth datgysylltu fy nghyflenwad. Help!
(A)       Fe ffoniwn ni’r cwmni dŵr, rhoi gwybod iddyn nhw ein bod ni’n ymdrin â’r mater, a gofyn iddyn nhw roi ychydig mwy o amser i chi. Mae gennym ni berthynas dda â nhw. Fel arfer, fe fyddan nhw’n rhoi 28 diwrnod i ni anfon datganiad ariannol atyn nhw. Fe awn ni drwy’r datganiad ariannol gyda chi, gweld beth yw’ch incwm a’ch treuliau, a’ch helpu chi i gyllido a chynnig dull fforddiadwy eu talu.

(Cw)    Sut rydwi’n ateb gwŷs gan lys y sir?
(A)       Gallwn ni eich helpu chi i lenwi’r ffurflen, a rhoi cyngor i chi ar y gweithdrefnau.

(Cw)    Alla’ i ddim talu fy nyledion. A gaiff fy enw ei roi ar restr ddu?
A(A)     Yn gyffredinol, caiff, ond fe allwn ni eich helpu chi i atal hyn rhag digwydd. Ein profiad ni yw bod rhan fwyaf y credydwyr yn hyblyg, a byddant yn derbyn cynnig o £1 neu £2 yr wythnos, os, o weld eich datganiad ariannol, y gwelan nhw mai dyna’r oll y gallwch chi ei fforddio yn realistig.

(Cw)    Rydw i wedi colli fy swydd. Beth yw fy hawliau?
(A)       Gallwn ni roi cyngor i chi ar eich opsiynau. Gall y rhain gynnwys tribiwnlys gwaith mewn rhai achosion. Os ydych wedi eich diswyddo, gallwn sicrhau eich bod wedi cael y tâl diswyddo cywir.

(Cw)    A allaf gael ad-daliad am fy soffa newydd? Dydw i ddim yn ei hoffi.
(A)       Os na fyddwch chi’n hoffi rhywbeth, nid oes gennych yr hawl i gael eich arian yn ôl. Mae’n dibynnu ar bolisi gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni – bydd rhai’n caniatáu i chi’i ddychwelyd.

(Cw)    A allwch chi ddod o hyd i ba fudd-daliadau y galla’ i eu hawlio?
(A)       Gallwn, fe allwn ni wneud hynny ar eich rhan.

(Cw)    Ble galla’ i ddod o hyd i ddeintydd GIG?
(A)       Maen nhw’n brin iawn yng Ngwynedd, ond fe geisiwn eich rhoi chi ar y trywydd iawn.

(Cw)    Nid yw fy nghyflenwr nwy newydd wedi anfon bil ata’ i ac rwy’n poeni’n enbyd ynglŷn â faint fydd y taliad. Beth galla’ i ei wneud?
(A)       Mae hyn yn gyffredin iawn ar hyn o bryd. Ni fydd rhai pobl yn cael bil am rai misoedd, ac weithiau nid ydynt yn siwr pwy yw eu cyflenwr. Gallwn ni holi’r cyflenwr, os ydych yn gwybod pwy ydyw, neu ffonio Nwy Prydain i weld a ydyn nhw’n cyflenwi nwy i’r cwsmer.

(Cw)     Gadewais fy swydd gan ddweud wrth fy mhennaeth i stwffio’i waith. Nawr, nid yw’n fodlon talu fy nghyflog dyledus.
(A)       Os oes gennych broblem, yn gyntaf oll, dylech ddefnyddio pob trefn gwyno fewnol. Ni fyddem yn argymell bod neb yn cerdded allan o’u swydd. Mae’r fath beth â ‘diswyddiad adeiladol’ yn bod, sy’n dadlau na fedrwch weithio yn y swydd mwyach oherwydd natur yr awyrgylch yno, ond mae hynny’n anodd iawn ei brofi. O ran y cyflog, os ydych chi wedi gwneud y gwaith, mae gennych hawl i’r cyflog ac fe allwn ni eich helpu i gael yr arian sy’n ddyledus i chi.

Os dymunwch ddod yn wirfoddolwr CAB Gwynedd a De Ynys Môn CAB, rhowch eich manylion ar y bonyn ymateb isod.

Byddwn yn trefnu i chi ddod i sesiwn cychwynnol, fel y byddwch chi’n ymwybodol o’r holl ffeithiau cyn bwrw ymlaen â’ch cais.

Os penderfynwch wneud cais, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd i’r cyfeiriad isod. Yna, cewch wahoddiad am gyfweliad, ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn trefnu i chi gychwyn ar eich hyfforddiant.

 

 

 

 

 
| Mwy