Newyddion

Penawdau Newyddion

Gweinyddiaeth HMV
Aeth y gadwyn o siopau cerddoriaeth HMV i ddwylo’r gweinyddwyr ar 15 Ionawr.
Ar hyn o bryd, mae’r siopau ar agor ond efallai na fyddan nhw’n derbyn tocynnau rhodd. Efallai y bydd y gweinyddwyr, Deloitte, hefyd yn penderfynu na fyddan nhw’n derbyn nwyddau diangen yn ôl mwyach.

Os oes tocyn rhodd gennych nad ydych yn medru ei ddefnyddio
Efallai bod siopau’n gwrthod derbyn tocynnau rhodd ar hyn o bryd. Pan fydd cwmni’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, maen nhw’n medru penderfynu a ydyn nhw am dderbyn tocynnau rhodd ai peidio.
Os oeddech wedi prynu tocyn rhodd gyda cherdyn credyd neu ddebyd, efallai y byddwch chi’n medru cael eich arian yn ôl.
Os oeddech wedi defnyddio cerdyn debyd i dalu, efallai y byddwch yn medru hawlio’ch arian yn ôl trwy gynllun ‘chargeback’ MasterCard a Visa. Er mwyn hawlio dan y cynllun hwn, rhaid eich bod wedi prynu’r tocyn 120 diwrnod neu lai yn ôl.
Os oedd y tocynnau’n rhodd gan rywun arall, y sawl a oedd wedi eu prynu fydd yn gorfod hawlio.
Os oeddech wedi defnyddio cerdyn credyd i dalu, gallwch hawlio cost y tocyn yn ôl gan ddarparwyr y cerdyn credyd, ond dim ond os yw’n werth mwy na £100. Nid oes gwahaniaeth os mai dim ond rhan o’r gost a dalwyd gyda cherdyn credyd.
Fe fydd angen i’r sawl sydd wedi prynu’r tocynnau hawlio.
Os nad ydych yn medru hawlio trwy gynllun ‘chargeback’ neu drwy’ch darparwr credyd, fe fydd angen i chi hawlio cost y tocynnau yn ôl gan y gweinyddwyr, Deloitte LLP. Ysgrifennwch at Deloitte yn gofyn am ad-daliad ar eich tocyn, gan ddweud pryd a ble y prynwyd y tocyn a rhoi rhif y tocyn. Ni ellir gwarantu y cewch eich arian yn ôl ac fe allai gymryd blwyddyn i brosesu’ch hawliad.
• Am fanylion cyswllt Deloitte, rhowch glic ar wefan HMV ar: www.hmv.com

Dychwelyd nwyddau
Os ydych chi am ddychwelyd nwyddau diangen, efallai na fydd HMV yn eu derbyn mwyach.
Os oes nam ar y nwyddau, efallai y bydd hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad neu eitem arall yn lle. Gallwch geisio ysgrifennu at y gweinyddwyr, ond efallai y bydd ganddyn nhw flaenoriaethau eraill ac efallai na fyddan nhw’n medru eich helpu.
Gan ddibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn medru:
• hawlio trwy gynllun ‘chargeback’ Mastercard a Visa
• hawlio gan ddarparwr eich credyd
• hawlio ar warant neu waranti.

Efallai y byddwch yn medru hawlio ar waranti’r gwneuthurwr neu waranti estynedig os cafodd ei brynu trwy gwmni yswiriant. Os mai HMV sy’n darparu’r waranti’n uniongyrchol, ni fyddwch yn medru hawlio.

• I ddarllen mwy am HMV a’r gweinyddwyr, ewch at MoneySavingExpert ar www.moneysavingexpert.com
Mwy am yr hyn fedrwch chi ei wneud pan fydd cwmni’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr
Mwy am hawlio trwy gynllun ‘chargeback’
Mwy am hawlio gan eich darparwr credyd
Mwy am hawlio dan warant neu waranti

Gweinyddiaeth Jessops
Aeth siopau camera Jessops i ddwylo’r gweinyddwyr yn ddiweddar hefyd, gyda’r siopau’n cau ddiwedd y diwrnod masnachu ar 11 Ionawr. Gweler gwefan Jessops am fanylion pellach ar yr hyn fedrwch chi ei wneud os ydych chi eisiau ad-daliad ar docynnau rhodd, yn aros am nwyddau sy’n cael eu trwsio, wedi archebu rhywbeth ymlaen llaw neu’n aros i gasglu archebion am luniau neu gynnyrch.
• Rhowch glic ar wefan Jessops ar www.jessops.com

Gweinyddiaeth Blockbuster
bydd Blockbuster yn parhau i fasnachu yn ôl yr arfer hyd nes dod o hyd i rywun sydd am brynu rhan o’r busnes neu’r busnes cyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cwsmeriaid yn dal i fedru defnyddio tocynnau rhodd a chredyd.
Mwy o wybodaeth ar yr hyn fedrwch chi ei wneud os oes cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr

Stampiau am bris y llynedd y Nadolig hwn
Mae’r Post Brenhinol yn anfon taflen i bob cartref yn y Deyrnas Unedig i dynnu sylw pobl at eu cynllun stampiau y Nadolig hwn.
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd neu Gredyd Pensiwn, gallwch brynu hyd at 36 o stampiau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth am bris y llynedd – 46c am stamp Dosbarth Cyntaf a 36 am un Ail Ddosbarth. Gallwch fanteisio ar y cynnig hwn rhwng 6 Tachwedd a Noswyl Nadolig.
Pan fyddwch yn mynd i brynu eich stampiau, bydd rhaid i chi fynd â llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda chi. Os oes gennych chi Gyfrif Cerdyn Swyddfa Post, a bod eich budd-daliadau’n cael eu talu i’r cyfrif hwn, gallwch fynd â’ch datganiad cerdyn gyda chi, yn lle.
Mae’r Post Brenhinol wedi dechrau dosbarthu’r daflen hon, gyda thaleb, i bob cartref ers 8 Hydref.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am gynllun stampiau Nadolig y Post Brenhinol, ewch i wefan y Post Brenhinol yn www.royalmailgroup.com.


Peidiwch â methu’r dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth - Hydref 31
Os ydych chi’n hunangyflogedig neu os oes unrhyw incwm arall gennych nad yw’n cael ei drethu’n uniongyrchol drwy eich tâl, fel arfer, mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen dreth i adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi bob blwyddyn.
Mae dau ddyddiad gwahanol ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth – un ar gyfer ffurflen bapur ac un ar gyfer ei chyflwyno ar-lein. Os ydych chi’n dychwelyd ffurflen bapur ar gyfer y flwyddyn dreth yn gorffen 5 Ebrill 2012 (blwyddyn dreth 2011-12), y dyddiad olaf ar gyfer ei chyflwyno yw 31 Hydref.
O’r blaen, os oeddech chi eisiau i CThEM gyfrifo’r dreth ar eich rhan, 30 Medi oedd y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflen, neu ddiwedd yr Ionawr canlynol, os oeddech chi am gyfrifo’r dreth eich hun.
Ond ers rhai blynyddoedd bellach, os ydych chi wedi methu cyflwyno eich ffurflen cyn y dyddiad terfynol ar gyfer dychwelyd ffurflen bapur, sef 31 Hydref, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno ar-lein. Os ydych chi’n credu y byddwch yn methu’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno eich ffurflen bapur, mae gofyn i chi gynllunio ar gyfer cwrdd â’r dyddiad terfynol ar gyfer gwneud hynny ar-lein, sef 31 Ionawr 2013.
Os ydych chi wedi cyflwyno eich ffurflen dreth ar-lein mewn blynyddoedd a fu, bydd gennych eisoes god PIN ar gyfer system CThEM. Os nad oes PIN gennych chi, bydd gofyn i chi gofrestru ar wefan CThEM. Anfonir y cod PIN atoch drwy’r post ac mae CThEM yn dweud y dylech ganiatáu saith diwrnod ar gyfer ei dderbyn.
Os ydych chi’n methu’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni treth, naill ai ar bapur neu ar-lein, gallech gael eich cosbi. Cyn gynted â’ch bod yn hwyr yn cyflwyno eich ffurflen, byddwch yn cael cosb o £100. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig. Ar ben y gosb o £100, mae’r cosbau canlynol yn cael eu pennu am ffurflenni treth a ddychwelwyd ar ôl 1 Tachwedd 2012 (ar gyfer ffurflenni papur), ac 1 Chwefror 2013 (ar gyfer ffurflenni ar-lein).
• Os ydych yn dychwelyd eich ffurflen dri mis yn hwyr – byddwch yn dechrau derbyn cosb awtomatig o £10 y dydd. Mae’r gyfradd hon yn parhau am 90 diwrnod, hyd at uchafswm o £900.
• Os ydych yn ei dychwelyd chwe mis yn hwyr - £300 neu 5% o’r rhwymedigaeth treth, p’run bynnag yw’r uchaf. Mae hyn ar ben y cosbau uchod
• Os ydych yn ei dychwelyd 12 mis yn hwyr - £300 neu hyd at 100% o’r dreth ddyledus; unwaith yn rhagor, mae hyn ar ben y cosbau uchod.
Gallech hefyd gael cosb am dalu treth yn hwyr, yn ogystal â chosb am ddychwelyd eich ffurflen dreth yn hwyr.
Gallai CThEM dderbyn apêl yn erbyn cosb am ddychwelyd ffurflen dreth yn hwyr, os oedd gennych chi esgus rhesymol.
Gallwch ymweld â gwefan CThEM i gael mwy o wybodaeth am hunanasesu yn www.hmrc.gov.uk.

Galwadau a negeseuon niwsans
Mae’r canllaw yn nodi beth i’w wneud os bydd rhywun yn eich ffonio i werthu rhywbeth i chi, a’ch bod yn awyddus i roi terfyn ar y galwadau. Er enghraifft, gallwch ofyn i’r sefydliad ddileu eich manylion oddi ar eu cronfa ddata a chofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn.
Mae hefyd yn esbonio y gallwch chi gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi’n parhau i dderbyn galwadau gan fudiadau sy’n holi ynglŷn â hawliadau am anafiadau personol a gwasanaethau gan gwmnïau rheoli dyledion.
Canllaw Ofcom ynglŷn â Galwadau a Negeseuon Niwsans [Saesneg yn unig]


Y Fargen Werdd
Ar 1 Hydref, daeth y Fargen Werdd, sef cynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth, i rym.
Mae’r Fargen Werdd yn eich galluogi i gael gwelliannau ynni-effeithlon i’ch eiddo heb orfod talu ymlaen llaw. Gallwch dalu am y gwelliannau trwy randaliadau ar eich bil trydan, am gyfnod o hyd at 25 mlynedd. Mae talu trwy’ch bil fel cael benthyciad – ond ar gyfer eich eiddo, nid yr unigolyn.
Cynlluniwyd y Fargen Werdd i sicrhau na fyddwch chi’n ad-dalu mwy nag yr ydych yn ei arbed ar eich bil ynni. Gelwir hyn yn Rheol Aur. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi ei warantu. Efallai bod y costau gwirioneddol yn fwy na’r arbedion a ragwelwyd. Er enghraifft, os ydych yn newid eich defnydd o ynni neu os yw prisiau ynni’n gostwng.
Gallwch ddarganfod mwy am y Fargen Werdd mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy adeiladwyr lleol, yr archfarchnad neu’r cwmni sy’n cyflenwi’ch ynni.
O 1 Hydref, gallwch gael asesiad ar gyfer eich cartref. Efallai hefyd y cewch amcanbrisiau ar gyfer y Fargen Werdd. Ond, ni fyddwch yn medru cwblhau’r contract ar gyfer y Fargen Werdd na chael y gwaith i ddechrau hyd nes diwedd mis Ionawr 2013.

National Minimum Wage goes up
The National Minimum Wage goes up on 1 October. The rate depends on your age. The new rates are:
• £6.19 if you're 21 or over
• £4.98 if you're 18-20 – this stays the same as before
• £3.68 if you're 16-17 – this stays the same as before
• £2.65 if you're an apprentice under 19, or in the first year of your apprenticeship.
If you're not sure if you're being paid the right amount, or need further advice about the National Minimum Wage, you can contact Pay and Works Rights Helpline on 0800 917 2368.

Not too late to renew your tax credits
Date: 24 September 2012
The deadline for renewing your tax credits was 31 July. You would have received your renewals pack from HRMC earlier in the year.
It's important to renew your tax credits every year by 31 July, even if you're no longer getting any money. If you didn't do it, your tax credits may stop and you may have to pay back the money your received since 6 April and any overpayments from the previous tax year.
However, if you have missed the deadline this year, HMRC will still restore your claim if you contact them with the details they have asked for by 30 September.
If you need help with your tax credits renewals, you can contact the tax credit helpline on 0345 300 3900.

Sgwatio nawr yn drosedd
Dyddiad: 24 Medi 2012

Newidiodd y rheolau ynghylch sgwatio ar 1 Medi. Ystyr sgwatio yw symud i mewn i rywle, neu aros yno, heb ganiatâd y perchennog.
Tan hyn, petai rhywrai’n cael eu dal yn sgwatio, er enghraifft mewn ty gwag neu fflat, a’r perchennog am eu cael allan, yna’n gyffredinol roedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r gyfraith sifil a dwyn achos llys er mwyn cael caniatâd i droi’r sgwatwyr allan. Y perchennog fyddai wedi gorfod talu am hyn.
Ond, erbyn hyn, mae sgwatio mewn eiddo preswyl yn drosedd. Mae hyn yn golygu nad yw’r perchennog yn gorfod mynd i’r llys er mwyn ceisio troi sgwatiwr allan – mae’n medru ffonio’r heddlu. Mae gan yr heddlu’r hawl i arestio sgwatwyr. Nid oes gwahaniaeth a yw rhywun wedi bod yn sgwatio ers amser hir yn yr un lle, neu newydd symud i mewn. Gellir arestio sgwatiwr am sgwatio ymhob math o adeiladau preswyl, er enghraifft tai neu fflatiau, ond hefyd llefydd fel carafannau a chartrefi symudol.
Os ceir rhywun yn euog o sgwatio, gellir eu hanfon i’r carchar am hyd at chwe mis neu godi dirwy arnynt am hyd at £5,000, neu’r ddau.
Nid sgwatio ydyw os oes tenantiaeth gennych sydd wedi dod i ben ond nid ydych wedi symud allan eto, neu os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent. Yn y mathau hyn o sefyllfaoedd, fe fydd yn rhaid i’ch landlord fynd i’r llys o hyd os yw am eich troi chi allan neu gael ei arian yn ôl.
Os ydych chi’n rhentu’ch cartref gan y cyngor neu gymdeithas tai, ac yn hawlio Budd-dal Tai i’ch helpu i dalu’ch rhent, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dorri o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Fe allai hyn ddigwydd os ydych yn y categori oed gweithio ac mae’ch cartref yn rhy fawr i chi.
Fe allai eich cartref fod yn rhy fawr os oes ystafell sbâr gennych, er enghraifft am fod eich plant wedi tyfu i fyny ac wedi gadael y cartref.
Mae’n bwysig i chi ddarganfod nawr os yw hyn yn mynd i effeithio arnoch, er mwyn i chi fedru penderfynu sut i dalu’ch rhent ar ôl y newidiadau.

Housing Benefit cuts if your social housing is too large
Dyddiad: 24 Medi 2012
Os ydych chi’n rhentu’ch cartref gan y cyngor neu gymdeithas tai, ac yn hawlio Budd-dal Tai i’ch helpu i dalu’ch rhent, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dorri o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Fe allai hyn ddigwydd os ydych yn y categori oed gweithio ac mae’ch cartref yn rhy fawr i chi.
Fe allai eich cartref fod yn rhy fawr os oes ystafell sbâr gennych, er enghraifft am fod eich plant wedi tyfu i fyny ac wedi gadael y cartref.
Mae’n bwysig i chi ddarganfod nawr os yw hyn yn mynd i effeithio arnoch, er mwyn i chi fedru penderfynu sut i dalu’ch rhent ar ôl y newidiadau.

CANOLFANNAU CYNGHORI DOLGELLAU & PWLLHELI
CYFLEOEDD GWIRFODDOLI FEL ASESYDD LLINELL GYMORTH

Diddordeb mewn gwirfoddoli mewn rhan wobrwyol a gwerthfawr? Profiad gwerthfawr mewn helpu pobl a hefyd cael profiad i wella eich rhagolygon gwaith.

Mae asesydd llinell gymorth yn rhan amrywiol a ni fydd disgwyl i chwi wybod popeth!
Fe fyddwn yn darparu aseswyr llinell gymorth gyda hyfforddiant llawn a fydd yn helpu i ddatblygu y sgiliau a fyddwch ei angen i rhoddi gwasanaeth rhagorol i cleientiaid.

Fel asesydd llinell gymorth fe fyddwch y pwynt mynediad cyntaf i gleientiaid yn gwneud cyswllt gyda llinell gymorth Cyngor ar Bopeth.

Nid oes angen cymwysterau penodol na angen profiad i hyfforddi am y rhan. Mae angen i chi fod:-

• yn wrandawr da

• fod yn gyfeillgar a chwrtais ar y ffôn

• gyda sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol

• Yn feddwl agored ac yn peidio barnu

• mwynhau help pobl

Wedi i chwi wneud eich hyfforddiant fy fyddwn yn dal i’ch cefnogi drwy gydol yr amser fel asesydd llinell gymorth.

Ar ôl bod yn gwneud y gwaith hwn fel allwch drosglwyddo i fod yn Gynghorydd Wyneb yn Wyneb.

Yr ydym yn talu costau teithio 35c y filltir.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Gwynfor/ Rhydwen yn Swyddfa Ardal, Caernarfon ar 01286 675376 neu admin@cabgwynedd.org.uk

Cyngor Ariannol

A wyddoch y gall CAB gynnig cyngor ariannol diduedd yn rhad ag am ddim,

Gall ein Cynghorwr Ariannol profiadol gwmpasu :
• cyllido i arbed
• menthyca a credyd, morgeisi, yswiriant
• cynllunio ar gyfar ymddeol a pensiwn

Ynghyd a cymorth i:
• rheoli eich arian o ddydd i ddydd
• gynllunio treuliau misol ac egluro materion ariannol mewn ffyrdd hawdd i’w ddeall

A chan i’r gwasanaeth fod yn wir ddiduedd
ni fyddant yn cymeradwyo unrhyw gynnyrch.

Am fwy o wybodaeth ag apwyntiad ffoniwch 07733260691 gan ofyn am Nigel Jacks

Cyflogaeth

A wyddoch y gall CAB eich helpu gyda problemau gwaith fel:
• Diswyddiad annheg ag anghyfiawn gan gynnwys diswyddiad ffurfiannol
• Ceisiadau yn ymwneud ag anffafriaeth
• A llawer mwy

Gallwn rhoi cyngor a cynrychiolaeth cyfreithiol yn rhad ag am ddim

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01286 676514 a gofynnwch am Ian Winrow

Beware imposter ‘CAB’ cold callers offering debt help, CAB Gwynedd & De Ynys Môn CAB warns
Date: 1 August 2012

Imposters claiming to be from the CAB are preying on people with money worries with cold calls offering fake ‘debt help’ CAB Gwynedd & De Ynys Môn CAB warned this week.

CAB Gwynedd & De Ynys Môn CAB said no genuine Citizens Advice Bureau would ever call people out of the blue offering to set up a debt management plan. We urge anyone receiving such a call or text to alert Action Fraud immediately on 0300 123 2040, or online at www.actionfraud.org.uk/report_fraud

“No CAB adviser, or anyone connected with the CAB, would ever phone or text someone out of the blue to offer debt management services. We cannot stress this too strongly, and we would urge anyone getting a bogus call like this to end the call as quickly as possible, never give or confirm any personal information, and to report the call immediately to Action Fraud and to the CAB. This advice applies to any cold call or text that offers you a loan, help dealing with debt problems, or claims to be from your bank - it is almost certainly a scam.

“CAB Gwynedd & De Ynys Môn CAB also want to reassure anyone experiencing debt or money worries that we can help. Our service is completely free, confidential and independent, and we have many years of experience and expertise in helping people get debt free and stay that way. No one solution is right for everyone. We can look at your whole situation, deal with any emergencies such as the threat of eviction or other court or bailiff action, or disconnection of essential services. We can also make sure you are not missing out on any extra income you may be entitled to. We can negotiate with creditors on your behalf and discuss all your options with you, so you can decide on the one that is right for you.”

Archif Newyddion - cliciwch yma

 

 
| Mwy