Croeso i wefan Cyngor ar Bopeth

Gwynedd a De Ynys Môn

Croeso i’n gwefan ble rydym wedi ceisio paratoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol ar eich cyfer. Yma gallwch ddarganfod beth all y gwasanaeth CAB gynnig i chi, gwirfoddoli, wythnos gynghori a'n gwaith ymgyrchu a chodi arian. Mwy....

Stampiau am bris y llynedd y Nadolig hwn
Mae’r Post Brenhinol yn anfon taflen i bob cartref yn y Deyrnas Unedig i dynnu sylw pobl at eu cynllun stampiau y Nadolig hwn.
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd neu Gredyd Pensiwn, gallwch brynu hyd at 36 o stampiau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth am bris y llynedd – 46c am stamp Dosbarth Cyntaf a 36 am un Ail Ddosbarth. Gallwch fanteisio ar y cynnig hwn rhwng 6 Tachwedd a Noswyl Nadolig.
Pan fyddwch yn mynd i brynu eich stampiau, bydd rhaid i chi fynd â llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda chi. Os oes gennych chi Gyfrif Cerdyn Swyddfa Post, a bod eich budd-daliadau’n cael eu talu i’r cyfrif hwn, gallwch fynd â’ch datganiad cerdyn gyda chi, yn lle.
Mae’r Post Brenhinol wedi dechrau dosbarthu’r daflen hon, gyda thaleb, i bob cartref ers 8 Hydref.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am gynllun stampiau Nadolig y Post Brenhinol, ewch i wefan y Post Brenhinol yn www.royalmailgroup.com.


Peidiwch â methu’r dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth - Hydref 31
Os ydych chi’n hunangyflogedig neu os oes unrhyw incwm arall gennych nad yw’n cael ei drethu’n uniongyrchol drwy eich tâl, fel arfer, mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen dreth i adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi bob blwyddyn.
Mae dau ddyddiad gwahanol ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth – un ar gyfer ffurflen bapur ac un ar gyfer ei chyflwyno ar-lein. Os ydych chi’n dychwelyd ffurflen bapur ar gyfer y flwyddyn dreth yn gorffen 5 Ebrill 2012 (blwyddyn dreth 2011-12), y dyddiad olaf ar gyfer ei chyflwyno yw 31 Hydref.
O’r blaen, os oeddech chi eisiau i CThEM gyfrifo’r dreth ar eich rhan, 30 Medi oedd y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflen, neu ddiwedd yr Ionawr canlynol, os oeddech chi am gyfrifo’r dreth eich hun.
Ond ers rhai blynyddoedd bellach, os ydych chi wedi methu cyflwyno eich ffurflen cyn y dyddiad terfynol ar gyfer dychwelyd ffurflen bapur, sef 31 Hydref, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno ar-lein. Os ydych chi’n credu y byddwch yn methu’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno eich ffurflen bapur, mae gofyn i chi gynllunio ar gyfer cwrdd â’r dyddiad terfynol ar gyfer gwneud hynny ar-lein, sef 31 Ionawr 2013.
Os ydych chi wedi cyflwyno eich ffurflen dreth ar-lein mewn blynyddoedd a fu, bydd gennych eisoes god PIN ar gyfer system CThEM. Os nad oes PIN gennych chi, bydd gofyn i chi gofrestru ar wefan CThEM. Anfonir y cod PIN atoch drwy’r post ac mae CThEM yn dweud y dylech ganiatáu saith diwrnod ar gyfer ei dderbyn.
Os ydych chi’n methu’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni treth, naill ai ar bapur neu ar-lein, gallech gael eich cosbi. Cyn gynted â’ch bod yn hwyr yn cyflwyno eich ffurflen, byddwch yn cael cosb o £100. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig. Ar ben y gosb o £100, mae’r cosbau canlynol yn cael eu pennu am ffurflenni treth a ddychwelwyd ar ôl 1 Tachwedd 2012 (ar gyfer ffurflenni papur), ac 1 Chwefror 2013 (ar gyfer ffurflenni ar-lein).
• Os ydych yn dychwelyd eich ffurflen dri mis yn hwyr – byddwch yn dechrau derbyn cosb awtomatig o £10 y dydd. Mae’r gyfradd hon yn parhau am 90 diwrnod, hyd at uchafswm o £900.
• Os ydych yn ei dychwelyd chwe mis yn hwyr - £300 neu 5% o’r rhwymedigaeth treth, p’run bynnag yw’r uchaf. Mae hyn ar ben y cosbau uchod
• Os ydych yn ei dychwelyd 12 mis yn hwyr - £300 neu hyd at 100% o’r dreth ddyledus; unwaith yn rhagor, mae hyn ar ben y cosbau uchod.
Gallech hefyd gael cosb am dalu treth yn hwyr, yn ogystal â chosb am ddychwelyd eich ffurflen dreth yn hwyr.
Gallai CThEM dderbyn apêl yn erbyn cosb am ddychwelyd ffurflen dreth yn hwyr, os oedd gennych chi esgus rhesymol.
Gallwch ymweld â gwefan CThEM i gael mwy o wybodaeth am hunanasesu yn www.hmrc.gov.uk.

Galwadau a negeseuon niwsans
Mae’r canllaw yn nodi beth i’w wneud os bydd rhywun yn eich ffonio i werthu rhywbeth i chi, a’ch bod yn awyddus i roi terfyn ar y galwadau. Er enghraifft, gallwch ofyn i’r sefydliad ddileu eich manylion oddi ar eu cronfa ddata a chofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn.
Mae hefyd yn esbonio y gallwch chi gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi’n parhau i dderbyn galwadau gan fudiadau sy’n holi ynglŷn â hawliadau am anafiadau personol a gwasanaethau gan gwmnïau rheoli dyledion.
Canllaw Ofcom ynglŷn â Galwadau a Negeseuon Niwsans [Saesneg yn unig]


Y Fargen Werdd
Ar 1 Hydref, daeth y Fargen Werdd, sef cynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth, i rym.
Mae’r Fargen Werdd yn eich galluogi i gael gwelliannau ynni-effeithlon i’ch eiddo heb orfod talu ymlaen llaw. Gallwch dalu am y gwelliannau trwy randaliadau ar eich bil trydan, am gyfnod o hyd at 25 mlynedd. Mae talu trwy’ch bil fel cael benthyciad – ond ar gyfer eich eiddo, nid yr unigolyn.
Cynlluniwyd y Fargen Werdd i sicrhau na fyddwch chi’n ad-dalu mwy nag yr ydych yn ei arbed ar eich bil ynni. Gelwir hyn yn Rheol Aur. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi ei warantu. Efallai bod y costau gwirioneddol yn fwy na’r arbedion a ragwelwyd. Er enghraifft, os ydych yn newid eich defnydd o ynni neu os yw prisiau ynni’n gostwng.
Gallwch ddarganfod mwy am y Fargen Werdd mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy adeiladwyr lleol, yr archfarchnad neu’r cwmni sy’n cyflenwi’ch ynni.
O 1 Hydref, gallwch gael asesiad ar gyfer eich cartref. Efallai hefyd y cewch amcanbrisiau ar gyfer y Fargen Werdd. Ond, ni fyddwch yn medru cwblhau’r contract ar gyfer y Fargen Werdd na chael y gwaith i ddechrau hyd nes diwedd mis Ionawr 2013.

Cliciwch yma am fwy o newyddion

 
| Mwy

Newyddion

  • 22.01.13 Gweinyddiaeth HMV, Jessops a Blockbuster ...mwy
  • 12.10.12 Stampiau am bris y llynedd y Nadolig hwn ...mwy
  • 12.10.12Peidiwch â methu’r dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth - Hydref 31 ...mwy
  • 12.10.12 Galwadau a negeseuon niwsans ...mwy
  • 12.10.12 Y Fargen Werdd ...mwy
  • 05.10.12 The National Minimum Wage goes up ...mwy
  • 24.09.12 Not too late to renew your tax credits ...mwy
  • 24.09.12 Sgwatio nawr yn drosedd ...mwy

 

Cysylltu

Mae'r cyngor a roddir gan y canolfannau yn rhad ac am ddim, yn annibynnol, yn amhleidiol, ac yn gyfrinachol. Cysylltwch gyda ni ... Mwy

A ydych angen cyngor am faterion teuluol? Gallwn roi cyngor ar iechyd, y cartref a'r gymdogaeth, ac am addysg Mwy …